Lleoliad:
Fideogynhadledd drwy Zoom
Dyddiad: Dydd Iau, 25 Chwefror 2021
Amser:
09.30 -
12.00
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/11103
------
Categori |
Enwau |
Aelodau o’r Senedd: |
Bethan Sayed AS (Cadeirydd) Helen Mary Jones AS Mick Antoniw AS John Griffiths AS Carwyn Jones AS David Melding AS |
Tystion: |
Eluned Morgan AS, Y Gweinidog Iechyd Meddwl, Llesiant a’r Gymraeg Bethan Webb, Llywodraeth Cymru Jeremy Evas, Llywodraeth Cymru |
Staff y Pwyllgor: |
Rhys Morgan (Clerc) Martha Da Gama Howells (Ail Glerc) Angharad Roche (Dirprwy Glerc) Osian Bowyer (Ymchwilydd) Robin Wilkinson (Ymchwilydd) |
1 Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau
Cafwyd ymddiheuriadau gan Carwyn Jones AS. Roedd Mike Hedges yn bresennol fel dirprwy.
Gwnaeth Mike Hedges ddatganiad o fuddiant gan fod ei ferch yn ystyried gyrfa ym maes addysg Gymraeg.
2 Craffu ar waith y Gweinidog Iechyd Meddwl, Llesiant a’r Gymraeg
Clywodd yr Aelodau dystiolaeth gan:
Eluned Morgan AS, y Gweinidog Iechyd Meddwl, Llesiant a’r Gymraeg
Bethan Webb, Dirprwy Gyfarwyddwr, Is-adran y Gymraeg
Jeremy Evas, Pennaeth Prosiect 2050
3 Papur(au) i’w nodi
Nododd yr Aelodau y papurau a chytunwyd i ysgrifennu at Fwrdd Cerddoriaeth Caerdydd a Chyngor Celfyddydau Cymru ynghylch gwaith ymgysylltu â rhanddeiliaid a gynhaliwyd fel rhan o’r ymchwiliad ar Gerddoriaeth Fyw.
3.1 Ymateb i’r adroddiad ar yr ymchwiliad i’r diwydiant cerddoriaeth fyw gan Fwrdd Cerddoriaeth Caerdydd.
3.2 Gohebiaeth â Llywodraeth Cymru am y Rheoliadau Safonau’r Gymraeg (Rhif 8) drafft
4 Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod
Derbyniwyd y cynnig.
5 Craffu ar waith y Gweinidog Iechyd Meddwl, Llesiant a’r Gymraeg: trafod y dystiolaeth
Trafododd yr Aelodau y dystiolaeth a ddaeth i law.
6 Ymchwiliad i ddatganoli darlledu: Trafod yr adroddiad drafft
Trafododd yr Aelodau yr adroddiad drafft. Gwnaed diwygiadau a chytunwyd y byddai'r fersiwn ddiwygiedig o'r adroddiad drafft yn cael ei ystyried yn y cyfarfod nesaf.